Beth yw’r broblem?
Roedd Cytundeb Paris 2016 yn cydnabod y byddai cyfyngu’r cynnydd yn nhymheredd y byd i 1.5C uwchlaw tymereddau cyn-ddiwydiannol yn lleihau yn sylweddol y peryglon o newid dinistriol i batrymau tywydd, ecosystemau, diogelwch bwyd ac iechyd dynol o’i gymharu â chynnydd mewn tymheredd o 2C neu fwy. Er mwyn cyrraedd y targed hwn mae’r Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) yn amcangyfrif fod yn rhaid i’r allyriadau CO₂ net fod yn 45% erbyn 2030, tra bod angen lleihau allyriadau CH4 o 35% neu fwy mewn cymhariaeth â lefelau 2010.
Fe wnaeth Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd gyfrifo fod amaethyddiaeth yn y DU yn gyfrifol am 10% o allyriadau ar draws yr economi. Fodd bynnag, dim ond rhan o’r darlun yw’r allyriadau uniongyrchol sy’n tarddu o’r sector amaethyddol. Er mwyn deall effaith lawn bwyd a ffermio, mae’n rhaid i ni ystyried cyfraniadau’r system fwyd o ran pecynnu, gwastraff, cludiant ac oeri, yn ogystal â newid mewn defnydd tir dramor – datgoedwigo a gwella porfeydd er mwyn cynhyrchu cnydau sylfaenol a phorthiant anifeiliaid yn fasnachol ar gyfer eu defnyddio yn y DU.
Pan gaiff amcangyfrifon eu hymestyn i gynnwys allyriadau’r gadwyn fwyd yn ehangach (heb gynnwys newid mewn defnydd tir) maent yn cynyddu i oddeutu 20% o allyriadau’r DU, ac i fwy na 30% o ystyried newid mewn defnydd tir o ganlyniad i dreuliant bwyd.
Er mwyn mynd i’r afael â dylanwad amaethyddiaeth ar yr hinsawdd, mae’n eglur fod angen i ni ystyried y system fwyd yn ehangach, ac yn enwedig effeithiau newidiadau mewn defnydd tir mewn rhannau eraill o’r byd sy’n cael eu sbarduno gan fewnforion bwyd ac arferion dietegol.
Mae gweithredu i liniaru newid hinsawdd trwy amaethyddiaeth yn gofyn am feddwl systemig sy’n cydnabod amaethyddiaeth a’r system fwyd fel rhannau o uned gyfan gymhleth, ac sy’n rhagweld newid y tu hwnt i allyriadau a thargedau domestig. Heb inni ddeall y cysylltiadau rhwng ein treuliant, cynhyrchiant amaethyddol, dosbarthiant a’r amgylchedd, ni fyddwn yn gallu mynd i’r afael â’r heriau a wynebwn.