Ein nod yw cefnogi aelodau i wella eu mentrau a goresgyn rhwystrau sy'n eu hwynebu, yn ogystal â chynorthwyo ffermwyr, tyfwyr a gweithwyr ar y tir i symud eu cynhyrchiad i systemau agroecolegol a'u mentrau i werthiannau uniongyrchol neu fodelau cadwyn gyflenwi fer.
Canllawiau gwerthu’n uniongyrchol a chadwyni cyflenwi byr
Mae’n destun cyffro i ni lansio tair dogfen fel rhan o’n gwaith parhaus i gynorthwyo cynhyrchwyr wrth iddynt sefydlu neu drosglwyddo at werthiant uniongyrchol a chadwyni cyflenwi byr. Rhannwch yr adnoddau hyn ag eraill, a rhowch wybod i ni beth yw eich barn o ran sut i’w gwella ymhellach.
Dros y misoedd sydd o’n blaenau, ein bwriad yw datblygu adnoddau pellach sy’n mynd i fwy o fanylder ar bob un o’r modelau hyn, gan gynnwys arweiniad gan gynhyrchwyr sy’n defnyddio’r modelau ar fanylion eu gweithrediadau, a Chynlluniau Rheoli Diogelwch Bwyd a gweithdrefnau HACCP enghreifftiol. Os oes diddordeb gennych mewn rhannu gwybodaeth am eich menter i gefnogi’r gwaith hwn, cysylltwch ag adam@landworkersalliance.org.uk
Adnoddau Hyfforddi
Rydym yn cynnig rhywfaint o hyfforddiant a mentora, ac adnoddau ar gyfer sefydlu safleoedd FarmStart. Gallwch ddod o hyd i fanylion am hyn yn yr adran hyfforddiant.Mae aelodau hefyd yn rhedeg grwpiau ffermwr i ffermwr mewn sawl rhan o’r wlad, ac rydym yn argymell i chi ddefnyddio’r fforwm ar y wefan hon i rannu cwestiynau y gallai eraill eich helpu i’w hateb.
Cymorth i Aelodau
Gallwn hefyd gynnig peth cymorth ar e-bost a thros y ffôn; byddwn yn trafod eich sefyllfa ac yn gwneud beth bynnag y gallwn ni i’ch helpu. Mae’r cynnig hwn ar gael i aelodau, ac i ffermwyr, tyfwyr a gweithwyr tir nad ydynt yn aelodau ond sy’n dymuno symud tuag at werthiant uniongyrchol a modelau cadwyn cyflenwi byr.
Os nad ydych yn aelod ond eich bod yn cael budd o’n cymorth, rydym yn argymell i chi ymuno fel bod modd i ni barhau i gynnig yr adnoddau hyn i eraill.
Am fwy o wybodaeth ac i wneud cais am gymorth, llenwch y ffurflen hon: