HYFFORDDIANT A RHWYDWAITH GYFNEWID AGRO-ECOLEG
Rydym yn gweithio i ddatblygu rhwydwaith hyfforddi a chyfnewid ym maes agro-ecoleg ar draws y DU, i gynnwys ffermwyr, tyfwyr, coedwigwyr a gweithwyr y tir sy’n ymarfer dulliau ffermio a rheolaeth tir agro-ecolegol. Nod y rhwydwaith yw llenwi rhai o’r bylchau sydd mewn hyfforddiant agro-ecolegol, yn ogystal ag annog arloesedd ac arfer orau trwy gyfnewidfeydd a dysgu rhwng cymheiriaid.