Cydgysylltydd Aelodaeth, Recriwtio ac Ymgysylltu Cymru / Membership Outreach and Recruitment Coordinator Wales
Oriau: 2 diwrnod (16 awr) yr wythnos
Hyd: 1 flwyddyn
Lleoliad: Gweithio o bell gyda’r capasiti i deithio rheolaidd ar gyfer gwaith, digwyddiadau a chyfarfodydd yng Nghymru a Lloegr
Tâ Cydnabyddiaeth:* £11,648 cyflog blynyddol gros PAYE (£29,120 pro rata). Gyda chynnydd blynyddol o 1.5% yn amodol ar adolygiad. Cyfraniad pensiwn statudol a lwfans gwyliau
Dyddiad Dechrau: cyn gynted â phosibl ar ôl recriwtio.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: dydd Llun, 2 Awst 2021
Cyfnod cyfweld: 4-17 Awst 2021
Trosolwg o’r rôl a swydd ddisgrifiad:
Fel rhan o strategaeth twf LWA yn y pum mlynedd nesaf, rydym am ehangu aelodaeth o 1,200 i 3,000 o gynhyrchwyr, a chyrraedd 1,000 o gefnogwyr. Rydym hefyd eisiau cefnogi aelodau i ymwneud mwy â gwaith LWA, yn fwy cysylltiedig â’i gilydd yn eu sectorau, canghennau, rhanbarthau a gweithgorau. Bydd Cydgysylltydd Aelodaeth, Recriwtio ac Allgymorth y DU a benodwyd yn ddiweddar yn arwain ar y gwaith hwn.
Ar hyn o bryd mae gennym tua 200 o aelodau yng Nghymru, anelwn i gynyddu hyn i 500 o gynhyrchwyr a 150 o gefnogwyr. Rydym hefyd yn anelu i ehangu ein haelodaeth i bob sector ledled Cymru gyfan.
Er mwyn gwneud hyn, rydym yn edrych i recriwtio person i rôl Aelodaeth, Recriwtio ac Allgymorth i Gymru, swydd 2 niwrnod yr wythnos.
Rydym yn edrych am gyfathrebwr a hwylusydd hyderus a medrus, sy’n deall y materion a’r ddynameg gymhleth sy’n ymwneud â bwyd a ffermio yng Nghymru er mwyn datblygu a chyflwyno strategaethau ar gyfer recriwtio, allgymorth ac ymgysylltu ag aelodau.
Bydd hyblygrwydd a rhyddid o fewn y rôl i gyflawni cynllun gwaith a strategaeth greadigol i adeiladu, cynyddu a chryfhau aelodaeth LWA. Bydd y Cydgysylltydd yn arwain ar gyfraniadau’r LWA i’r Gynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru. Gall elfennau eraill o’u gwaith gynnwys (ond heb ei gyfyngu i) ymgyrch cyfathrebu ac ymgysylltu, recriwtio mewn digwyddiadau, cydweithio gyda sefydliadau bwyd a ffermio eraill, yn ogystal â gweithio gydag aelodaeth LWA ledled Cymru ar lefel lleol a sectoraidd.
Bydd y Cydgysylltydd Aelodaeth, Recriwtio ac Ymgysylltu yn cyfarfod â Grwpiau Cydgysylltu Cymru a’r DU a staff yr LWA i ddatblygu cynigion a chyflawni cynllun gwaith y cytunwyd arno gyda thargedau a bennwyd gan y Grwpiau Cydgysylltu. Bydd y rôl hon yn gweithio ochr yn ochr â Chydgysylltydd polisi Cymru a chydgysylltydd aelodaeth, recriwtio ac allgymorth y DU, yn gweithio ar ddigwyddiadau, gwerthiant, ymgyrchu a lobïo, y cyfryngau a chyfathrebu, rhaglenni hyfforddi a chyfnewid, symudiadau a gwasanaethau aelodau. Yn ychwanegol bydd y rôl hefyd yn cydweithio ag aelodau LWA i drefnu a symudiadau gwirfoddolwyr ledled Cymru. Mae’r rolau’n rhan o’r tîm staff ‘aelodaeth’.
Gallwch weld y swydd ddisgrifiad yma.
—
Hours: 2 days (16 hours) per week
Duration: 1 year
Location: Working remotely with the capacity for regular travel for work, events and meetings in Wales and England
Remuneration:* £11,648 gross annual salary PAYE (£29,120 pro rata). With 1.5% annual increase, subject to review. Statutory pension contribution and holiday allowance
Start date: ASAP following recruitment.
Closing date for applications: Monday 2nd of August 2021
Interview period: 4th to 17th of August.
Role overview and job description:
As part of the LWA’s growth strategy in the coming five years we want to expand membership from 1,200 to 3,000 producers and reach 1,000 supporters. We also want to support members to become both more involved with the work of the LWA, and more connected to one-another, in their sectors, branches, regions and working groups. The recently recruited UK wide Membership, Recruitment and Outreach Coordinator will be leading on this work.
In Wales there are currently around 200 members, we aim to increase this to 500 producer members & 150 supporters. We also aim to broaden our membership to reach across the whole of Wales and all sectors.
To do this we are looking to also recruit a Wales Membership, Recruitment & Outreach role for 2 days per week.
We are seeking a confident and skilled communicator and facilitator, who understands the complex issues and dynamics surrounding food and farming in Wales in order to develop and deliver strategies for membership recruitment, outreach and engagement.
The role will have freedom and flexibility to deliver a work plan and creative strategy to build, increase and strengthen the LWA’s membership. The Co-ordinator will take the lead on the LWA’s contributions to the Wales Real Food and Farming Conference. Other elements of their work may include (but are not restricted to) a communications and engagement campaign, recruitment at events, collaborating with other food and farming organisations, and working with the LWA membership across Wales to build membership at a local and sectoral level.
The Membership Recruitment and Outreach Coordinator will meet with the Wales & UK Coordinating Groups and staff of the LWA to develop proposals and deliver an agreed work plan with targets set by the Coordinating Groups. This role will work alongside the Wales policy co-ordinator and UK membership recruitment and outreach co-ordinator working on events, sales, campaigning and lobbying, media and communications, training and exchange programs, mobilisations and member services. In addition the role will also collaborate with LWA members in volunteer organising and mobilising across Wales . The roles sits within the ‘membership’ staff team
Please see the job description yma: