Am fersiwn Cymraeg gweler isod
Last year, the Landworkers’ Alliance held an online People’s Food Summit as a grassroots, people-led alternative to the United Nations Food Systems Summit. This year, we want to carry on the conversation and start thinking strategically about what it will take for us to create a sustainable and inclusive movement that fights for food justice and food sovereignty on local, regional and national scales.
We want to build towards the food system we want: one that is just for people and planet, one that centres workers’ rights, one where everyone has access to affordable and nutritious food and one where communities, not corporations, are at the heart of the food system.
This People’s Food Summit will offer new and old members of the movement an in-person opportunity, for the first time since the 2015 Hebden Bridge UK Food Sovereignty gathering, to delve into what we have learnt in the past seven years and what we hope to achieve in the years to come. Whether you’re on the periphery of the food justice movement, have been involved for many years, are a landworker, grower, activist, young person, food bank volunteer, or you’re simply someone who enjoys eating good food, your voice is needed.
Here’s 5 reasons why you should come along:
- Feed your ideas and perspective into our movement. If you’ve ever had concerns about the food justice and food sovereignty movement, or have ideas for how it could be better, you are needed at the People’s Food Summit. Were there some conversations at the Land Skills Fair you wish you had time to explore further? Do you feel like intersectionality is not prioritised deeply enough within the food sovereignty movement? Do you find the term ‘food sovereignty’ inaccessible? Whatever it is, your voice is important and it is so rewarding to know you are making a difference within your new (or familiar) community.
- Be a part of broadening our food sovereignty movement. In order to make sure our movement is not made up of mostly one demographic – like just landworkers, for example – we need all hands on deck. That means even people who don’t yet feel a part of the movement at all can and should come along. All levels of experience, all levels of expertise, are welcome, and your presence will help shape the movement in the months and possibly even years ahead.
- Build community. Movements are built in the space between us and others. We thrive when we meet people who share our passions and interests – when we create community with those who share our vision for the future of our land and food. During this weekend, you’ll have ample opportunities to meet new (and old) faces who care deeply about food justice work. Enjoy a last hurrah before autumn arrives and many of us start to retreat into our warm homes!
- Learn. The summit will provide an opportunity for us all to learn more about the intricacies of our food system and how we can best effect change in our regions and across all UK nations. We will ask questions like: What does it mean to create system change? Is the ‘Right to Food’ a liberal idea? How do we build a decolonial food sovereignty movement? And what is the vision we want for our world and our movement as a whole? There will be lots of space for us to get creative and do some exciting imagining and learning.
- Eat amazing food and experience joy together. We feel it is so important that our work centres on joy, fun, good food and lots of laughter. Movements are not built solely on ‘work’ – this is an old narrative that no longer serves us. It is just as radical and important for us to eat nourishing food and to laugh and sing and dance together – these are the things which sustain us in the struggle for justice. Enjoy centering a healthy balance of meaty topics and loads of fun with us this September, as we listen to acoustic music and enjoy a folk history of land rights in England by Three Acres and a Cow.
Y llynedd, cynhaliodd Cynghrair Gweithwyr y Tir Uwchgynhadledd Bwyd y Bobl ar-lein fel dewis amgen i Uwchgynhadledd Systemau Bwyd y Cenhedloedd Unedig, ar ffurf digwyddiad ar lawr gwlad wedi’i arwain gan bobl. Eleni, rydym am barhau â’r sgwrs a dechrau meddwl yn strategol am yr hyn fydd ei angen i greu mudiad cynaliadwy a chynhwysol sy’n ymladd dros gyfiawnder bwyd a sofraniaeth bwyd yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.
Rydym yn awyddus i weithio tuag at y system fwyd a ddymunwn: un sydd ar gyfer pobl a’r blaned yn unig, un sy’n rhoi lle canolog i hawliau gweithwyr, un lle mae gan bawb fynediad at fwyd fforddiadwy a maethlon ac un lle mae cymunedau, yn hytrach na chorfforaethau, wrth wraidd y system fwyd.
Am y tro cyntaf ers cyfarfod Sofraniaeth Bwyd y DU yn Hebden Bridge yn 2015, bydd Uwchgynhadledd Bwyd y Bobl yn cynnig cyfle personol i aelodau hen a newydd o’r mudiad ymchwilio i’r hyn yr ydym wedi’i ddysgu yn ystod y saith mlynedd diwethaf a’r hyn yr ydym yn gobeithio ei gyflawni yn y blynyddoedd i ddod. P’un a ydych ar ymylon y mudiad cyfiawnder bwyd, wedi bod yn gysylltiedig ag ef ers blynyddoedd lawer, yn weithiwr tir, yn dyfwr, yn ymgyrchydd, yn berson ifanc, yn wirfoddolwr mewn banc bwyd, neu’n rhywun sy’n mwynhau bwyta bwyd da, mae angen i ni glywed eich llais.
Dyma 5 rheswm pam y dylech ddod i’r gynhadledd:
- I fwydo eich syniadau a’ch safbwynt i’n mudiad. Os ydych chi erioed wedi cael pryderon am y mudiad cyfiawnder bwyd a sofraniaeth bwyd, neu os oes gennych syniadau ynghylch sut y gellir ei wella, mae eich angen chi yn yr Uwchgynhadledd Bwyd y Bobl. A oedd yna sgyrsiau yn y Ffair Sgiliau Tir yr hoffech fod wedi cael amser i’w trafod ymhellach? Ydych chi’n teimlo nad yw croestoriadedd yn cael ei flaenoriaethu’n ddigonol o fewn y mudiad sofraniaeth bwyd? Ydych chi’n teimlo bod y term ‘sofraniaeth bwyd’ yn gwbl ddieithr i chi? Beth bynnag y bo, mae eich llais yn bwysig ac mae gwybod eich bod yn gwneud gwahaniaeth o fewn eich cymuned newydd (neu gyfarwydd) yn deimlad gwerth chweil.
- I fod yn rhan o ehangu ein mudiad sofraniaeth bwyd. Er mwyn sicrhau bod ein mudiad yn cynnwys mwy nag un ddemograffeg – nid dim ond gweithwyr tir, er enghraifft – mae angen i bawb gyfrannu. Mae hynny’n golygu y gall hyd yn oed pobl nad ydynt eto’n teimlo’n rhan o’r mudiad o gwbl ddod i’r gynhadledd ac y dylent wneud hynny. Mae croeso i bobl â phob lefel o brofiad, pob lefel o arbenigedd, a bydd eich presenoldeb yn helpu i siapio’r mudiad yn y misoedd, ac o bosibl y blynyddoedd, i ddod.
- I greu cymuned. Mae mudiadau yn cael eu creu yn y gofod rhyngom ni ac eraill. Rydym yn ffynnu pan fyddwn yn cwrdd â phobl sy’n rhannu ein hangerdd a’n diddordebau – pan fyddwn yn creu cymuned gyda’r rhai sy’n rhannu ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol ein tir a’n bwyd. Yn ystod y penwythnos hwn, cewch ddigonedd o gyfleoedd i gwrdd â wynebau newydd (a hen) sy’n teimlo’n angerddol am waith cyfiawnder bwyd. Mwynhewch un cyfle olaf cyn i’r hydref gyrraedd a chyn i lawer ohonom ddechrau cilio i’n cartrefi cynnes!
- I ddysgu. Bydd yr uwchgynhadledd yn gyfle i ni i gyd ddysgu mwy am gymhlethdodau ein system fwyd a’r ffordd orau o sicrhau newid yn ein rhanbarthau ac ar draws holl wledydd y DU. Byddwn yn gofyn cwestiynau fel: Beth mae’n ei olygu i greu newid yn y system? A yw’r ‘Hawl i Fwyd’ yn syniad rhyddfrydol? Sut mae creu mudiad sofraniaeth bwyd nad yw’n drefedigaethol? A beth yw’r weledigaeth rydyn ni ei heisiau ar gyfer ein byd a’n mudiad cyfan? Bydd llawer o le i ni fod yn greadigol a gwneud rhywfaint o ddychmygu a dysgu cyffrous.
- I fwyta bwyd anhygoel a mwynhau bod yng nghwmni ein gilydd. Rydym yn teimlo ei bod yn bwysig iawn bod ein gwaith yn canolbwyntio ar fwynhau, hwyl, bwyd da a llond bol o chwerthin. Nid yw symudiadau yn seiliedig ar ‘waith’ yn unig – mae hwn yn hen naratif nad yw’n briodol bellach. Mae’r un mor radical a phwysig i ni fwyta bwyd maethlon a chwerthin a chanu a dawnsio gyda’n gilydd – dyma’r pethau sy’n ein cynnal yn y frwydr dros gyfiawnder. Mwynhewch gydbwysedd iach o bynciau swmpus a llwyth o hwyl gyda ni fis Medi eleni, wrth i ni wrando ar gerddoriaeth acwstig o amgylch y tân a gwylio sioe ar hanes gwerin hawliau tir yn Lloegr gan Three Acres and a Cow.
For more information on the People’s Food Summit and to purchase tickets for the event, please head over to the People’s Food Summit Eventbrite page.