Dewch draw i Gynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru, sy’n cael ei chynnal eleni yn Llysfasi, Gogledd Cymru! Yn y gynhadledd hon fe fydd gwaith gwych y bobl hynny yng Nghymru sy’n ceisio adeiladu symudiad i sicrhau systemau bwyd a ffermio agroecolegol yn cael eu hamlygu drwy amrywiaeth o sgyrsiau, trafodaethau ac arddangosiadau difyr.
Rydym yn wynebu tipyn o her. O ystyried y ‘Cylch Bwyd Sothach’, sy’n ein gwneud ni a’r blaned yn sâl, a hefyd difaterwch San Steffan (er fod Llywodraeth Cymru, ar bapur o leiaf, i weld yn fwy cefnogol i’r angen am drawsnewid), rhaid i’r mudiad agroecolegol yng Nghymru wneud pob dim o fewn ei allu i geisio ehangu argaeledd a hygyrchedd bwyd sy’n dda i bobl a’r blaned.
This year the sterling work of people in Wales dedicated to building the movement for more agroecological food and farming systems will come to life in North Wales through talks, demonstrations and lively discussions at the wonderful Wales Real Food and Farming Conference (WRFFC).
It’s a big challenge. In the face of a ‘Junk Food Cycle’ that is making us and the planet sick and a lack of acknowledgement of the scale of the problem from Westminster, though we have more support from Welsh Government in theory, the agroecological movement in Wales needs all the support it can give itself to try to expand the availability and accessibility of foods that are good for people and planet.
Mae Gweithwyr y Tir – undeb sy’n cael ei gynnal a’i yrru gan ei aelodau agroecolegol – yn chwarae rhan bwysig bob blwyddyn wrth gefnogi Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru. Eleni, yn ogystal â bod yn Noddwyr Aur y Gynhadledd, mae ein haelodau, ein trefnwyr a’n staff i gyd yn torchi llewys i helpu trefnu’r digwyddiad pwysig hwn. Dyma i chi rai o uchafbwyntiau o’r Gynhadledd:
Bydd Kate McEvoy, un o gyd-sylfaenwyr y cwmni llewyrchus ‘Real Seeds’, yn cynnal sesiwn gyda Lauren Simpson o Barc y Dderwen a Katherine Langton o fferm Langtons. Bydd y dair yn siarad am yr hyn sydd ei angen er mwyn rhedeg busnes yn llwyddiannus o safbwynt ariannol, yn ogystal â thrafod busnesau garddwriaeth sy’n gynaliadwy o safbwynt ecolegol yng Nghymru.
Ymhlith y sesiynau ar dechnoleg ymarferol newydd cawn glywed gan Tony Little ac Alma Joensen am ddulliau Dadansoddi Pridd: byddant yn edrych ar brofion amrediad (biolegol yn ogystal â chemegol), eu haddasrwydd a’u pwrpas yn ogystal ag amlder y profi, dehongli’r data a chyfyngiadau.
Bydd y darlledwr profiadol Dei Tomos, o BBC Cymru, yn sgwrsio gydag Elinor Gwynn o Brifysgol Aberystwyth am y berthynas rhwng iaith a’r tir.
Cawn glywed gan Holly Tomlinson o ‘Blasgwent’ am y defnydd o fwyd lleol mewn prydau ysgol a sut y gallwn wneud rhagor o gynydd yn y maes hwn. Bydd yn sôn am ei phrofiad o weithio gyda busnes llysiau Blasgwent sy’n cyflenwi llysiau i ysgolion cynradd fel rhan o’r cynllun peilot ‘Llysiau i Ysgolion Cymru’. Bydd Holly hefyd yn cyfrannu hefyd at drafodaeth yn ystod sesiwn arall ynghylch polisi Gweithwyr y Tir mewn perthynas â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Bydd Lydia Dibben o Ardd Farchnad Primrose yn arwain trafodaeth ar y ffyrdd y mae busnesau fferm yn llwyddo cynyddu mynediad at fwyd agroecolegol a chefnogi bywoliaethau ar yr un pryd. Cawn glywed cyfraniadau diddorol gan wahanol brosiectau, busnesau a chynlluniau peilot – yn cynnwys Abel Pearson o Glasbren.
The Landworkers’ Alliance – a union driven by its agroecological members plays a part every year in supporting the conference and this year, as well as being proud Gold Sponsors, our members, organisers and staff are all actively taking part once again. Some highlights:
Kate McEvoy, one of the co-founders of the hugely successful Real Seeds, running a session, with Lauren Simpson from Parc y Dderwen and Katherine Langton of Langtons Farm, talking about what it takes to run financially as well as ecologically sustainable horticulture businesses in Wales.
New practical technical sessions and Tony Little and Alma Joensen leading one on Soil Analysis exploring the range tests (biological as well as chemical), their suitability and purposes as well as frequency of testing, interpretation and limitations.
The renowned BBC Cymru broadcaster, Dei Tomos, will be discussing the relationship between language and land with Elinor Gwynn of Aberystwyth University.
Holly Tomlinson from Blasgwent in a session on school meals and how we can scale-up progress. She’ll be talking about it from the perspective of Blasgwent veg business that is supplying veg into primary schools as part of the Welsh Veg into schools pilot. She’ll also be in action in an LWA policy capacity in another session talking about the Sustainable Farming Scheme.
Lydia Dibben from Primrose Market Garden will lead a discussion on ways in which farm businesses are increasing access to agroecological food at the same time as supporting livelihoods. There’ll be insights from projects, pilots and businesses including Abel Pearson of Glasbren.
Dyma i chi flas yn unig o rai o’r sesiynau cyffrous sydd i ddod yn y gynhadledd hon – cynhadledd sy’n cynrychioli symudiad a yrrir gan bobl sy’n frwd dros weithio i newid y system er gwell. Mae dod ynghyd i rannu ein profiadau a chael ysbrydoliaeth yn rhan annatod o dyfu’r mudiad. Os nad ydych wedi gwneud yn barod, prynwch docyn a dewch draw drwy glicio yma.
This is just a snapshot of some of the exciting sessions at the conference which represents a movement driven by the people who are actively changing the system for the better. Coming together to share learnings and gather inspiration is an integral part of growing the movement. If you haven’t already then buy a ticket and come along by clicking here.
Dyma i chi flas yn unig o rai o’r sesiynau cyffrous sydd i ddod yn y gynhadledd hon – cynhadledd sy’n cynrychioli symudiad a yrrir gan bobl sy’n frwd dros weithio i newid y system er gwell. Mae dod ynghyd i rannu ein profiadau a chael ysbrydoliaeth yn rhan annatod o dyfu’r mudiad. Os nad ydych wedi gwneud yn barod, prynwch docyn a dewch draw drwy glicio yma.
This is just a snapshot of some of the exciting sessions at the conference which represents a movement driven by the people who are actively changing the system for the better. Coming together to share learnings and gather inspiration is an integral part of growing the movement. If you haven’t already then buy a ticket and come along by clicking here.